Mae’r Dystysgrif wedi ei datblygu er mwyn galluogi myfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru i ennill tystysgrif sy’n dangos tystiolaeth o’u sgiliau iaith, a’u gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae llawer o gyflogwyr wedi datgan eu cefnogaeth i’r Dystysgrif.
I ennill y Dystysgrif mae angen gwneud cyflwyniad llafar a chwblhau prawf ysgrifenedig sy’n cynnwys tair tasg. Bydd y cyflwyniadau llafar yn digwydd ar-lein cyn canol mis Mawrth 2022 ar ddyddiadau a bennir gan diwtoriaid sgiliau iaith y prifysgolion. Cynhelir y prawf ysgrifenedig ar naill y 4ydd o fis Mai 2022 ar gyfrifiadur. Bydd y tiwtor yn cadarnhau union ddyddiad y prawf ysgrifenedig ar ôl i’r gofrestr gau ddechrau mis Tachwedd. Does dim modd newid dyddiad y prawf ysgrifenedig.
Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy...
Ещё видео!