Gwasanaeth Dod o hyd i swydd: Ailosod eich cyfrinair ceisiwr gwaith
I ailosod eich cyfrinair ceisiwr Gwaith ar wefan Dod o hyd i swydd, dewiswch y ddolen 'Mewngofnodi' ar frig y dudalen.
Ar y dudalen Mewngofnodi, dewiswch y ddolen 'Ailosod eich cyfrinair'.
Bydd y dudalen 'Ailosod eich cyfrinair' nawr yn ymddangos ar y sgrin.
Rhowch eich cyfeiriad e-bost ac yna dewiswch y botwm 'Ailosod cyfrinair'.
Os yw'r cyfeiriad e-bost hwn yn bodoli yn ein system, yna anfonir e-bost ailosod cyfrinair atoch.
Dewiswch y ddolen yn yr e-bost hwn o fewn 24 awr i ailosod eich cyfrinair. Os na allwch ddod o hyd i'r e-bost, edrychwch yn eich ffolder e-bost sbam neu sothach.
Pan fyddwch yn dewis y ddolen ‘ailosod cyfrinair’, gofynnir i chi nodi cyfrinair newydd. Ar ôl i chi wneud hyn, mae eich cyfrinair wedi'i ailosod a byddwch yn cael eich mewngofnodi'n awtomatig.
Dewiswch 'Ewch i'ch cyfrif' i gael mynediad at eich tudalen cyfrif.
Mae gwasanaeth Dod o hyd i swydd yn: findajob.dwp.gov.uk Ar gyfer swyddi llawn amser neu ran-amser yng Nghymru, Lloegr a'r Alban
----------------------------------------------------------------------------------------------------------
Ni allwn ymateb i ymholiadau ar YouTube.
Ewch i gov.uk i ddod o hyd i'r wybodaeth berthnasol.
Ещё видео!