O fis Medi 2022 bydd ein disgyblion yn dechrau astudio Cwricwlwm Newydd i Gymru. Golyga hyn ein bod fel cymuned ysgol angen sicrhau bod ein gweledigaeth yn diffinio'n glir yr hyn yr hoffem ei ddarparu ar gyfer ein dysgwyr.
Rydym yn awyddus iawn i'ch cynnwys ar ein taith i gynllunio cwricwlwm newydd ac yn barod i wrando ar unrhyw awgrymiadau, sylwadau neu gyfraniadau perthnasol sydd gennych.
Canolbwynt gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw'r dyhead i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru wireddu'r pedwar diben, a datblygu'n:
• ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
• cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
• dinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a’r byd
• unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Ещё видео!