O tyrd at yr allor
Wyt ti'n brifo, 'di dryllio tu fewn?
Wedi llethu gan bwysau dy fai?
Mae Iesu yn galw.
Ydy popeth yr wyt ti ar ben?
Sgen ti syched am yfed o'r ffrwd?
Mae Iesu yn galw.
O tyrd at yr allor,
Mae breichiau'r Tad yn awr ar led,
Maddeuant a brynwyd
â gwerthfawr waed ein Iesu Grist.
Tro dy gefn ar ddifaru a bai;
Paid ag oedi, tyrd nawr ato Ef.
Mae Iesu yn galw.
Tyrd â'th alar; gorfoledd a ddaw.
Bywyd newydd o'r lludw sy'n dod.
Mae Iesu yn galw.
O tyrd at yr allor.
Mae breichiau'r Tad yn awr ar led
Maddeuant a brynwyd
â gwerthfawr waed ein Iesu Grist.
O tyrd at yr allor.
Mae breichiau'r Tad yn awr ar led
Maddeuant a brynwyd
â gwerthfawr waed ein Iesu Grist.
O come to the altar, Chris Brown, Steven Furtick, Wade Joye, Mack Brock
Cyfieithiad Cymraeg awdurdodedig gan Arwel E. Jones.
Hawlfraint 2015 a’r cyfieithiad hwn © 2018 Music by Elevation Worship Publishing (BMI). Cedwir pob hawl. Defnyddiwyd trwy ganiatâd.
Ещё видео!