Mae ymosodiadau ar weithwyr gwasanaethau brys ar gynnydd yng Nghymru yn ôl data newydd.
Bu mwy na 4,240 o ymosodiadau yn erbyn gweithwyr gwasanaethau brys, yn cynnwys yr heddlu, criwiau tân ac ambiwlans, yn y cyfnod rhwng Ebrill 2019 a Thachwedd 2020, sy’n cynrychioli cynnydd cyfartalog misol o 202 yn 2019 i 222 yn 2020, neu 10%.
Roedd yr ymosodiadau’n amrywio o gicio, dyrnu a tharo pennau i boeri, slapio, brathu a cham-drin geiriol.
Mae gweithwyr gwasanaethau brys yn gofyn i’r cyhoedd eu trin gyda pharch, gan wneud yr apêl a ganlyn – gweithiwch gyda ni, nid yn ein herbyn ni.
Cofrestrwch eich cefnogaeth ac ymuno yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #GydaNiNidYnEinHerbyn neu #WithUsNotAgainstUs.
Ещё видео!