Mae Huw Chiswell yn gyfarwydd i sawl carfan yng Nghymru - dyma’r cerddor, awdur geiriau a chyfansoddwr; yr actor, cyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu o Gwm Tawe’n wreiddiol. Cychwynodd ei yrfa gerddorol gyda’r grwpiau pop Y Crach a’r Trwynau Coch cyn cychwyn perfformio a rhyddhau recordiau fel artist unigol. Bellach mae ei ganeuon yn rhan o’n cynhysgaeth gerddorol Cymreig gydag alawon a geiriau heintus sy’n adlonni, yn pigo’r cydwybod, yn gofnod personol ac yn sylwebaeth gymdeithasol. Dyma’r perlau sydd wedi sicrhau ei le yn y rheng flaen ym myd canu cyfoes yng Nghymru.
Huw Chiswell, originally from Cwmtawe is familiar in many Welsh spheres – as musician, lyricist and composer; and television actor, director and producer. He began his performing career with Welsh pop bands Y Crach and Trwynau Coch before embarking on a solo recording career. His songs are now part of the Welsh language endowment with haunting melodies and lyrics that entertain, prick the conscience, and give both personal and social commentary. These gems have secured his place amongst the Welsh front row of contemporary musicians.
Ещё видео!